Mae Cyrraedd yn bartneriaeth newydd o eglwysi ac unigolion efengylaidd sy’n cydweithio i blannu eglwysi yng Ngogledd Cymru. Dyma sut rydyn ni’n bwriadu gweithio:
- Hoffen ni ganfod yr ardaloedd lle mae angen eglwysi newydd.
- Rydyn ni’n cydnabod y dylai gwaith efengylu go iawn yng Ngogledd Cymru fod yn rhywbeth rhanbarthol a lleol. I ddechrau, mae ein gwaith wedi’i rannu’n ddau ranbarth: Gogledd-ddwyrain Cymru a Gogledd-orllewin Cymru a byddwn ni’n canolbwyntio ar eu hanghenion penodol.
- Byddwn yn anelu at helpu eglwysi i blannu eglwysi newydd ac adfywio’r rhai sydd eisiau bodoli yng Ngogledd Cymru.
- Byddwn ni’n hyrwyddo gweddïo dros waith Duw yn y sefyllfaoedd hyn.
- Hefyd, rydyn ni’n bwriadu dod o hyd i weithwyr yr efengyl sy’n ddawnus ac wedi’u hyfforddi ac sy’n cael eu galw gan Dduw i blannu eglwysi yng Ngogledd Cymru.
- Ein nod ydy cysylltu gyda chefnogwyr sy’n gallu dod â gweddïau, cyllid a chymorth arall er mwyn gweld eglwysi’n cael eu plannu.
- Byddwn ni’n cyfeirio adnoddau i’r planwyr a’r eglwysi y byddwn yn partneru gyda nhw.
- Rydyn ni’n bwriadu rhoi cyngor a chefnogaeth ychwanegol yn ôl y gofyn.
- Rydyn ni’n bodoli er mwyn helpu gyda phlannu eglwysi lleol yng Ngogledd Cymru. Sefydlwyd Cyrraedd yn swyddogol yn 2018 felly rydyn ni’n dal i gael ein traed odanon ni! Rydyn ni fel grŵp o eglwysi wedi plannu tair eglwys eisoes yn ystod y blynyddoedd diwethaf a’n gobaith, gyda chymorth Duw, ydy cynyddu’r nifer dros y blynyddoedd nesaf.