Mae angen Iesu ar bobl! Maen nhw ei angen yn y bywyd hwn ac yn dragwyddol. Rydyn ni eisiau i bobl gael y cyfle i ddod i’w adnabod ac i wybod am y bywyd mae’n ei gynnig.
Y ffordd mae Duw yn gwneud hyn ydy drwy ei eglwys. Nid adeilad na chyfarfod ydy hyn, ond grŵp o bobl.
Mae Duw yn cyrraedd pobl drwy ei bobl: wrth iddyn nhw rannu’r newyddion da am Iesu mewn dull eglur; wrth iddyn nhw adlewyrchu ei gariad yn eu cymunedau ac wrth iddyn nhw sefydlu teulu eglwysig lle maen nhw’n caru ac yn gwasanaethu ei gilydd a’u cymdogaeth.
Mae’r eglwysi newydd hyn yn cynnig lle diogel, pleserus a ffyniannus i grwpiau o rieni a phlant bach, gwaith gyda phobl ifanc, dosbarthiadau magu plant, cynghori ar ddyledion, cyfeillgarwch, cefnogaeth i hen bobl, cyfleoedd i ddysgu’r Beibl, a chymaint mwy, gan weld cariad a grym achubol Iesu ym mhopeth.
Ein gweledigaeth ydy gweld Gogledd Cymru wedi’i llenwi ag eglwysi fel hyn unwaith eto.