Mae angen yr efengyl ar Ogledd Cymru ac mae angen Gogledd Cymru ar yr eglwys ehangach, felly dw i wrth fy modd i weld y cynllun newydd hanfodol hwn yn cael ei lansio. Mae’r rhan hon o’r byd wedi bod yn bwerdy ysbrydol yn y gorffennol ac rydyn ni’n hyderu ac yn gweddïo y bydd yn cyflawni hynny eto drwy ddaioni Duw a thrwy waith yr efengyl yn ei bobl.

Sam Allberry

Apolegydd, Ravi Zacharias International Ministries; golygydd ymgynghorol The Gospel Coalition; siaradwr ac awdur

Mae’r naratif a glywn am Gristnogaeth yng Nghymru heddiw yn un o ddirywiad yn bennaf, ac nid oes gan lawer o drefi a channoedd o bentrefi yn y Gogledd un eglwys efengylaidd. Felly mae’n anogaeth ardderchog cael clywed am awydd CYRRAEDD i weld eglwysi efengylaidd bywiog yn cael eu plannu yn yr ardaloedd hyn yng Ngogledd Cymru. Mae newyddion da’r efengyl yn wir, a gweddïaf y bydd miloedd o bobl sydd ar goll yn dod i glywed y gwirionedd hwn drwy waith yr eglwysi newydd hyn ar draws Gogledd Cymru.

Rhun Murphy

Bugail Capel Bedyddwyr Pen y Bryn ac arweinydd ardal Gogledd Cymru Cymrugyfan

Dw i wrth fy modd i glywed am y cynllun i ddod â’r efengyl o fewn cyrraedd mwy o bobl Gogledd Cymru. Mae gweld eglwysi’n ymdrechu ochr yn ochr er mwyn hyrwyddo’r Efengyl yn yr ardal yn rhywbeth calonogol dros ben a dw i’n hyderu y bydd nifer o unigolion ac eglwysi’n dymuno ymuno yn y gwaith hwn.

Y Parch. William Taylor

Rheithor St Helen’s Bishopsgate, Llundain

Mae partneriaethau efengylaidd wedi bod yn gyfrwng bendith ledled Prydain. Maen nhw wedi ysgogi lledu’r efengyl gan roi anogaeth er mwyn cynnal y rhai sy’n gweinidogaethu’r efengyl. Mae gweld datblygiad Cyrraedd Pobl Gogledd Cymru yn rhywbeth cyffrous. Bydded iddo fod yn gyfrwng i wneud ac i aeddfedu llawer o ddisgyblion i’r Arglwydd Iesu Grist.

Paul Rees

Gweinidog Capel Charlotte, Caeredin