Dyma’r grŵp sy’n goruchwylio’r gwaith o redeg Cyrraedd.
Cafodd Dafydd Cunningham ei fagu ger Rhuthun yn Nyffryn Clwyd ac mae o’n weinidog ar Gapel Gras, Dinbych, sy’n eglwys a gafodd ei phlannu gan Eglwys y Bedyddwyr, Ebeneser, yn 2013.
Mae’n briod ag Amanda ac mae ganddyn nhw dri o blant. Cyn symud i Ddinbych, bu’n astudio yng Ngholeg Diwinyddol Oak Hill a chyn hynny bu’n gweithio i eglwysi yn Llundain a Durham. Bu hefyd yn gyfreithiwr corfforaethol yn y Ddinas. Mae o wrth ei fodd i fod yn rhan o waith Cyrraedd Pobl Gogledd Cymru oherwydd ei angerdd dros weld eglwysi newydd yn cael eu sefydlu mewn cymunedau sydd mewn angen ysbrydol.
Gweinidog Eglwys Annibynnol Gwersyllt ydy Ian Hughes.
Cafodd ei fagu yn yr ardal a symudodd i Gwersyllt er mwyn bugeilio’r eglwys yno. Mae’r eglwys wedi tyfu ac wedi cael dylanwadau cadarnhaol yn sgil rhannu’r newyddion da am Iesu yn y gymuned. Mae o a’i eglwys yn teimlo’r angerdd i weld eglwysi newydd yn cael eu plannu mewn cymunedau eraill fel eu bod nhw, hefyd, yn gallu mwynhau’r fendith o adnabod Iesu.
Mae Andrew Graham wedi bod yn weinidog ar Eglwys Efengylaidd y Bedyddwyr yn Ffordd Bradley yn Wrecsam ers 2007.
Mae o’n dod o Dde Affrica yn wreiddiol a symudodd i Gymru 12 mlynedd yn ôl. Mae o’n gefnogwr brwd o dîm rygbi Cymru, ond nid pan fydd Cymru’n chwarae yn erbyn tîm y Springboks!
Roedd James Mitton yn Gyfarwyddwr Gwasanaeth Cwsmeriaid Grŵp Shop Direct tan yn ddiweddar. Mae o’n arweinydd yn Eglwys y Bedyddwyr, Ebeneser, Yr Wyddgrug, ac ar hyn o bryd mae o’n cefnogi Cyrraedd Pobl Gogledd Cymru fel gweinyddwr yn ystod ei gyfnod sabothol. Mae o’n briod â Lowri ac mae ganddyn nhw dri o blant. Mae James yn dysgu Cymraeg, crefftau ymladd cymysg a sut i recordio mewn stiwdio – i’w gadw allan o ddrygioni! Mae o’n awyddus iawn i weld Gogledd Cymru yn ffynnu gydag eglwysi newydd wedi’u planu a chymunedau’n dod i adnabod Iesu Grist.
John Richards ydy Gweinidog Eglwys y Bedyddwyr, Ebeneser, Yr Wyddgrug.
Mae o’n briod â Kathryn ac mae ganddyn nhw dri o blant. Pan dydy o ddim yn gwneud ei waith bugeuliol, mae’n siwr y gwelwch chi o’n rhedeg, yn beicio ac yn nofio yn yr ardal! Mae John wedi cefnogi’r gwaith o blannu dwy eglwys yn ystod ei gyfnod yn Ebeneser ac mae o’n arwain y gwaith o blannu eglwys arall ar hyn o bryd – eleni, gobeithio, gyda chymorth Duw! Mae o’n awyddus i weld eglwysi newydd, ffyniannus ar draws Gogledd Cymru, ardal a ddaeth o dan ddylanwad yr efengyl 100 mlynedd yn ôl yn sgil y newyddion da am Iesu, ac mae cymaint o angen hynny heddiw.
Ben Slatter ydy Gweinidog Cynorthwyol Eglwys y Bedyddwyr, Ebeneser, Yr Wyddgrug.
Mae o’n briod â Ruth ac mae ganddyn nhw dri o blant. Cafodd ei ysgogi gan Indiana Jones i astudio Archeoleg yn y brifysgol ac aeth yn athro ar ôl bod yn gweithio i UCCF ac IFES. Mae ei gonsárn dros rannu gwirioneddau tragwyddol y Beibl, a ysgrifennwyd filoedd o flynyddoedd yn ôl, wedi’i ysbrydoli i rannu’r newyddion da am Iesu gyda phobl ifanc a theuluoedd yng Ngogledd Cymru ac i gefnogi Cyrraedd gyda’r gwaith o blannu eglwysi newydd.
Deiniol Williams ydy Gweinidog Cynorthwyol Eglwys Annibynnol Gwersyllt.
Cafodd Deiniol ei fagu yn Wrecsam, Gogledd-ddwyrain Cymru, a bu’n astudio Diwinyddiaeth yn Oak Hill ac yn yr Union School of Theology. Ei ddymuniad ydy gweld mudiad efengylu strategol yn cyrraedd yr ardal ac mae o wedi cyffroi gan y syniad o fod yn rhan o Cyrraedd.