
Mae
700,000
o bobl yn byw yng Ngogledd Cymru heddiw.
Dywedir bod mwy o gapeli na thafarndai yng Ngogledd Cymru ar un adeg.
Yn sgîl Diwygiad 1904-05, nid y rhan hon o Gymru’n unig a gafodd ei gweddnewid yn gadarnhaol ond teimlwyd ei ddylanwad ar draws y byd.
Yn y gorffennol yr oedd hynny. Heddiw, mae’r capeli hynny’n cau neu’n cael eu troi’n gartrefi neu’n fusnesau. O gyfnod pan oedd bron pawb yn mynd i’r capel, amcangyfrifir bod llai nag 1% o bobl Cymru’n mynd i gapel neu eglwys heddiw.
Pwy fydd yn cyrraedd y 99% gyda’r newyddion da a’r gobaith yn Iesu Grist?