Mae angen eich cefnogaeth arnon ni er mwyn gwireddu ein gweledigaeth o weld mwy o eglwysi’n cael eu plannu yng Ngogledd Cymru.
Mae angen cefnogaeth eich gweddïau arnon ni.
Gweddïwch gyda ni y bydd Arglwydd y Cynhaeaf yn anfon gweithwyr allan ac yn dwyn Ei gynhaeaf i mewn. Ymunwch yma er mwyn derbyn newyddion ac eitemau i weddïo drostyn nhw.
Gallwch chi roi cefnogaeth ariannol.
Dim ond gyda’ch cefnogaeth chi i’r planwyr y gallwn ni wneud y gwaith gyda’n gilydd. Cliciwch yma i gael manylion am sut i gyfrannu.
Gallwch chi ddod i Ogledd Cymru.
Mae angen pobl i gydweithio gyda phlanwyr yn ystod uchelbwyntiau ac iselbwyntiau’r weinidogaeth. Tybed ydy’r Arglwydd yn eich holi chi ynglŷn ag adleoli i Ogledd Cymru? Cysylltwch â ni ac mi rown ni bob cymorth ynglŷn ag adleoli.
Beth sydd ar eich calon?
Beth bynnag ydy eich gweledigaeth dros weld gwaith efengylu newydd yn ffynnu yng Ngogledd Cymru, mi fydden ni wrth ein bodd i glywed oddi wrthych chi! Cysylltwch â ni.
Os ydych chi’n ystyried sefydlu eglwys newydd yng Ngogledd Cymru ac rydych chi’n dymuno cael ychydig o help, cliciwch yma.