Rydyn ni’n cydnabod mai gweddi ydy pwerdy’r eglwys, felly dyma rai o’r pethau y bydden ni’n gwerthfawrogi pe baech chi’n gweddïo amdanyn nhw:
- Cais cyflym a llwyddiannus i’r Comisiwn Elusennau er mwyn cael statws elusen
- Yr arian ar gyfer y gost o sefydlu Cyrraedd, gan gynnwys ein dymuniad i gyflogi rhywun i weinyddu’n rhan-amser
- Doethineb ar gyfer y tîm wrth sefydlu’r prosesau ar gyfer rhedeg Cyrraedd Pobl Gogledd Cymru, gan gynnwys lansio digwyddiadau hyfforddi yn ddiweddarach yn 2018
- Llaw gyson Duw ar y cyfle i blannu eglwys ym Mwcle, a fydd yn dechrau yn yr hydref, gobeithio
- Doethineb i wybod pa drefi a phentrefi yng Ngogledd Cymru, ar ôl Bwcle, i ganolbwyntio arnyn nhw yn gyntaf