Rydyn ni’n dyheu am gael gweld pobl yn darganfod cariad a grym gweddnewidiol Duw, drwy gyfrwng tystiolaeth fyw yr eglwysi newydd fydd yn cael eu plannu ar draws Gogledd Cymru, a helpu i gymunedau ffynnu’n ysbrydol.
Mi gewch chi ragor o wybodaeth am y prosiect diweddara i blannu eglwys ym Mwcle, Sir y Fflint, yma.
Cefnogir Cyrraedd Pobl Gogledd Cymru gan grŵp o eglwysi sy’n cytuno ag egwyddorion y ffydd Gristnogol ac sy’n ymroddedig i blannu eglwysi newydd ar draws Gogledd Cymru er mwyn gweddnewid eu cymunedau mewn ffordd gadarnhaol.