Mae’r hyn rydyn ni’n anelu at wneud yng Ngogledd Cymru yn llwyr seiliedig ar yr hyn rydyn ni’n ei gredu.

Mae’r Datganiad o Ffydd canlynol yn amlinellu gwirioneddau  sylfaenol Cristnogaeth fel y maen nhw i’w gweld yn y Beibl. Mae’n ein huno ni gyda Christnogion y gorffennol a gyda’n cyfoedion sy’n credu hyn.

1. Duw

Un Duw sydd, mae’n bodoli’n dragywydd ar ffurf tri pherson gwahanol a chyfartal: y Tad, y Mab a’r Ysbryd Glân. Mae Duw yn ddigyfnewid yn ei sancteiddrwydd, yn ei gyfiawnder ac yn ei gariad. Ef yw’r Creawdwr, yr Iachawdwr a’r Barnwr, sy’n cynnal ac yn llywodraethu pob peth yn ôl ei ewylllys sofran er ei ogoniant ei hun.

2. Y Beibl

Mae Duw wedi amlygu ei hun yn y Beibl, sy’n cynnwys yr Hen Destament a’r Testament Newydd yn unig. Mae pob gair wedi cael ei ysbrydoli gan Dduw drwy awduron dynol fel bod y Beibl, fel y cafodd ei gyflwyno’n wreiddiol, yn Air Duw drwyddo draw, heb gamgymeriadau, ac yn gwbl ddibynadwy o ran ffeithiau a dysgeidiaeth. Mae’r Beibl ei hun yn siarad gydag awdurdod terfynol ac mae bob amser yn ddigonol ar gyfer pob agwedd ar gredu ac ar bob mater ymarferol.

3. Yr hil ddynol

Mae pawb, sydd wedi cael eu creu ar ddelw Duw, yn gyfartal o ran eu hurddas a’u gwerth. Eu pwrpas mwyaf ydy addoli a charu Duw ac ufuddhau iddo. O ganlyniad i gwymp ein rhieni cyntaf, mae pob agwedd ar y natur ddynol wedi cael ei lygru ac mae pob dyn a dynes heb fywyd ysbrydol, maen nhw’n bechaduriaid euog ac yn elyniaethus i Dduw. Mae pob person, felly, o dan gondemniad cyfiawn Duw ac mae angen ei eni o’r newydd, sicrhau maddeuant a’i gymodi â Duw er mwyn dod i’w adnabod a’i foddhau.

4. Yr Arglwydd Iesu Grist

Mae’r Arglwydd Iesu Grist yn Dduw cyflawn ac yn ddyn cyflawn. Cafodd ei feichiogi drwy’r Ysbryd Glân, ei eni o  wyryf a bu’n byw bywyd dibechod yn ufudd i’w Dad. Bu’n dysgu gydag awdurdod ac mae ei holl eiriau’n wir. Bu farw ar y groes yn lle pechaduriaid, gan gario cosb Duw am eu pechod,  a’u hachub drwy ei waed. Atgyfododd o farw a chododd yn ei gorff atgyfodedig i’r nefoedd lle mae’n cael ei fawrygu fel Arglwydd pawb a phopeth. Mae’n eiriol dros ei bobl ym mhresenoldeb y Tad.

5. Iachawdwriaeth

Gras Duw yn unig sy’n gyfrifol am iachawdwriaeth ac nid oes modd ei ennill na’i haeddu. Mae’n cael ei gyflawni gan yr Arglwydd Iesu Grist ac mae’n cael ei gynnig i bawb yn yr efengyl. Mae Duw, drwy ei gariad hael, yn maddau i bechaduriaid mae’n eu galw, gan gynnig iddyn nhw  edifeirwch a ffydd. Mae pawb sy’n credu yng Nghrist yn cael ei gyfiawnhau drwy ffydd yn unig, yn cael ei fabwysiadu i deulu Duw ac yn derbyn bywyd tragwyddol.

6. Yr Ysbryd Glân

Mae’r Ysbryd Glân wedi cael ei anfon o’r nefoedd i ogoneddu  Crist ac i weithredu ei waith, sef achub. Mae’n euogfarnu  pechaduriaid, yn rhoi bywyd ac yn rhoi gwir ddealltwriaeth o’r Ysgrythurau.  Mae’n byw ym mhawb sy’n credu ynddo fo, mae’n dod â sicrwydd iachawdwriaeth ac yn creu tebygrwydd cynyddol i Grist. Mae’n adeiladu’r Eglwys ac yn ymnerthu ei haelodau ar gyfer addoli, gwasanaethu a chenhadu.

7. Yr Eglwys

Yr Eglwys fyd-eang yw’r corff y mae Crist yn ben arno ac iddi hi y mae pawb sydd wedi cael ei achub yn perthyn.  Mae’n amlygu ei hun mewn eglwysi lleol, sy’n gynulleidfaoedd o gredinwyr sy’n ymroddedig i’w gilydd er mwyn addoli Duw, pregethu’r Gair, bedyddio a gweinyddu Swper yr Arglwydd; ar gyfer gofal bugeiliol a disgyblaeth ac ar gyfer efengylu. Mae undod corff Crist yn cael ei fynegi o fewn a rhwng eglwysi drwy gariad, gofal ac anogaeth. Dim ond pan fyddan nhw’n ffyddlon i’r efengyl y bydd gwir frawdoliaeth yn bodoli rhwng eglwysi.

8. Bedydd a Swper yr Arglwydd

Mae bedydd a Swper yr Arglwydd wedi cael eu rhoi i’r eglwysi gan Grist fel arwyddion gweledol o’r efengyl. Mae bedydd yn symbol o undod gyda Christ ac o fynediad i’w Eglwys ond dydy hyn ddim yn rhoi bywyd ysbrydol. Mae Swper yr Arglwydd yn coffáu aberth Crist unwaith ac am byth dros bawb ac nid yw’r bara a’r gwin yn cael eu newid. Mae ei holl fendithion yn dod drwy ffydd.

9. Y dyfodol

Bydd yr Arglwydd Iesu Grist yn dychwelyd mewn gogoniant. Bydd yn atgyfodi’r meirw ac yn barnu’r byd yn gyfiawn. Bydd y drygionus yn cael eu hanfon i gosb dragwyddol a bydd y cyfiawn yn cael eu derbyn i fywyd o lawenydd tragwyddol gyda Duw. Bydd Duw yn gwneud pob peth yn newydd a bydd yn cael ei ogoneddu am byth.