Mae llawer o adnoddau gwych ar gyfer cefnogi plannu eglwysi yng Ngogledd Cymru. Dyma rai i’w hystyried.
LLYFR
Center Church – Timothy Keller
Center Church (Zondervan, 2012). Gyda chymorth Duw, mae Keller wedi gwneud ei farc yn Efrog Newydd drwy blannu llawer o eglwysi. Mae The Redeemer Church Planter Manual yn ddefnyddiol iawn hefyd.
LINC
Cymrugyfan
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gorffennodd David Ollerton adolygiad o gyflwr ysbrydol Cymru ychydig cyn iddo farw o ganser yn 2017. Mi wnaeth ei fywyd a’i waith ysbrydoli nifer o bobl i gefnogi ei weledigaeth o ddiwygiad yng Nghymru drwy blannu eglwysi newydd ac adfywio eglwysi sy’n ei chael hi’n anodd.
LINC
MEC
Dechreuodd MEC (Mudiad Efengylaidd Cymru) bron 70 mlynedd yn ôl yn sgil gwaith gan fyfyrwyr ym Mangor ac Aberystwyth. Erbyn heddiw, mae’n cynhyrchu adnoddau defnyddiol, gan gynnwys llyfrau, cyrsiau a hyfforddiant sy’n werthfawr iawn yng nghyd-destun gweld yr efengyl yn ffynnu yng Ngogledd Cymru.
DOGFEN
Plannu eglwys – FIEC
Mae FIEC yn cefnogi eglwysi annibynnol ym Mhrydain sy’n caru’r efengyl ac mae wedi bod yn gefnogwr pwysig drwy ein helpu ni i sefydlu Cyrraedd Pobl Gogledd Cymru. Cliciwch yma i weld rhai o’i adnoddau defnyddiol ar blannu eglwysi.