Mae angen eich cefnogaeth arnon ni er mwyn gwireddu’r weledigaeth o weld mwy o eglwysi’n cael eu plannu yng Ngogledd Cymru.
Stiwardiaeth
Rydyn ni’n gwneud cais am statws elusen ar hyn o bryd. Pan fydd hyn wedi cael ei gwblhau, byddwn ni’n agor cyfrif banc gyda chyswllt i wasanaethau Stewardship. Mae hon yn ffordd wych o roi rhoddion unigol i Gyrraedd Gogledd Cymru a byddwch chi’n gallu gwneud hynny’n ddi-enw os ydych chi’n dymuno. Dyma’r linc i’r wefan os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth. https://www.stewardship.org.uk/
Creu archeb sefydlog
Byddai rhoi’n rheolaidd yn help mawr ar gyfer cefnogi cyflogau misol staff plannu eglwysi wrth i ni fwrw ymlaen gyda datblygu Cyrraedd Pobl Gogledd Cymru a chefnogi projectau newydd. Pan fyddwn ni wedi agor cyfrif banc, byddwn ni’n rhoi linc yma ar gyfer sefydlu rhoddion rheolaidd os ydych chi’n gallu helpu yn y modd hwn.
Anfon siec
Gallwch chi anfon siec yn daladwy i Gyrraedd Gogledd Cymru, d/o James Mitton, Eglwys y Bedyddwyr, Ebeneser, Ffordd Glanrafon, Yr Wyddgrug CH7 1PA
Ffurflenni Rhodd Gymorth
Cyn gynted ag y byddwn ni wedi cofrestru Cyrraedd Pobl Gogledd Cymru fel elusen, byddwn ni’n rhoi linc yma ar gyfer ffurflen rhodd gymorth fel ein bod ni’n gallu hawlio 20% oddi wrth Gyllid y Wlad ar roddion oddi wrth unrhyw un sy’n talu trethi ac sy’n gymwys ar gyfer rhodd gymorth.