• Post category:Newyddion

Mae Duw yn dda iawn – mae o’n mynd o’n blaen ac yn dangos y ffordd i ni.

Pan ddechreuodd henaduriaid Eglwys y Bedyddwyr, Ebeneser, weddïo a siarad am y posibilrwydd o blannu eglwys yn Ninbych, mae’n deg dweud nad oedd un ohonon ni’n gwybod beth fyddai’n dod o’r syniad. Dim ond Duw oedd yn gwybod bryd hynny y byddai eglwys newydd yn cyfarfod bob dydd Sul mewn canolfan gymunedol yn y dref ymhen ychydig flynyddoedd; yn ei glodfori gyda’n gilydd; yn adeiladu eu ffydd gyda’n gilydd, yn gwasanaethu’r gymuned yn ymarferol gyda’n gilydd, yn ceisio ymestyn allan gyda’n gilydd gyda’i Air … Mae ein Duw yn dda iawn!

Photo caption goes here.

Mae ein Duw yn dda – mae o’n rhoi popeth sydd ei angen arnon ni.

Pan oedd arian yn brin a’r gynulleidfa’n fach, cododd Duw gyfranwyr a gweddïwyr hael – o bell ac agos – er mwyn helpu gyda sefydlu Capel Gras.  Pan oedd angen man cyfarfod ar y Sul a chael yr ymateb “Na, allwch chi ddim cyfarfod yma, mae’n ddrwg gen i”, agorodd Duw y drws i leoliad delfrydol, fforddiadwy, gyda digon o le yno – a dyna’n cartref hyd heddiw.  Pan ddaeth cyfnod ‘mis-mêl-eglwys-newydd’ i ben a phan symudodd rhai pobl i rywle arall, roedden ni’n teimlo’n fach ac yn fregus unwaith eto, ond atebodd Duw ein gweddïau dros gael rhagor o bobl … pobl wasanaethgar, pobl a oedd yn ymateb i weddi!  Mae’n weddi rydyn ni’n parhau i’w gweddïo ac mae Duw, drwy ei ras, yn parhau i’w hateb. Mae ein Duw yn dda iawn!

Mae ein Duw yn dda iawn – mae’n ein tyfu ni yn ein cariad tuag at ein gilydd.

Pan fydd eglwysi sy’n caru’r efengyl yn brin yng nghefn gwlad Gogledd Cymru, gydag eglwys newydd yn denu pobl o bob math o gefndiroedd – rhai eglwysig a di-eglwys – mae posibilrwydd y bydd anghydweld, hyd yn oed yn fwy nag arfer. Ond mae Duw bob amser yn dda. Mae Duw yn ein helpu ni i gadw’n llygaid ar Iesu – yr un sy’n ein gwneud ni’n un … gyda Duw a gyda’n gilydd. Ac wrth i ni dyfu gyda’n gilydd mewn cariad, rydyn ni’n  awyddus iawn i weld ein tref yn dod i wybod am gariad Crist hefyd. Mae ein Duw yn dda iawn!

Mae ein Duw yn dda iawn – mae o wedi rhoi Newyddion Da i ni rannu!

Pan fydd cymuned fel ein cymuned ni mor amrywiol – yn ddiwylliannol, yn ieithyddol, yn gymdeithasol-economegol – gyda’r angen o’n cwmpas mor fawr –  diweithdra, tlodi, dibyniaeth ar sylweddau, anawsterau iechyd meddwl, unigrwydd, tor-teulu a.y.b., ac rydyn ni’n teimlo’n annigonol i fedru diwallu’r anghenion, eto i gyd, mae Duw yn ei ddaioni wedi rhoi gwir obaith i’w gynnig i bobl, gobaith cadarn sy’n diwallu’r anghenion dyfnaf.  A phan fydd y gobaith hwnnw, drwy ras Duw, yn cael ei ddeall am y tro cyntaf, a bod yr unigolyn yn dal ei afael ynddo, fel rydyn ni wedi’i weld gydag ambell un, rhaid i ni ddweud eto, “Mae ein Duw yn dda iawn!”

Rydyn ni’n dyheu am gael gweld pobl golledig mewn trefi a phentrefi o’n cwmpas yn ymuno yn y gri honno!

Dafydd Cunningham (Capel Gras, Dinbych)